Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu polisi Cymraeg Clir/Plain
English ar gyfer ei holl gyfathrebiadau, a hefyd rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi o’r fath fel
bod yr iaith a ddefnyddir yn glir ac yn ddealladwy bob amser.
Mae siarad dwbl, iaith gyfreithiol ddiangen a defnyddio acronymau a jargon
annealladwy, ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar yn Siambr y Senedd, yn atal
gwleidyddiaeth yng Nghymru rhag bod mor gynhwysol a hygyrch ag y dylai fod.
Byddai polisi iaith glir yn helpu i annog mwy o ddiddordeb a chyfranogiad mewn
gwleidyddiaeth Cymru ymysg pawb. Dylai’r polisi hefyd fod yn gymwys i
ddogfennau cyfreithiol/Biliau/Deddfau cyhyd â’u bod yn parhau i fod yn
gyfreithiol gadarn. Fel enghraifft dda o gyfathrebiad dealladwy a chlir, gellid
defnyddio templed Cymraeg Clir Canolfan Bedwyr fel templed Cymraeg cyfatebol i
dempled Plain English, fel bod y defnydd o’r Gymraeg, p’un a gaiff ei defnyddio
mewn adroddiadau gwreiddiol neu ddeunydd wedi’i gyfieithu, yn berthnasol,
modern a dealladwy, ac nid yn gyfieithiad llythrennol, annealladwy a slafaidd
o’r geiriadur o’r fersiwn Saesneg. Mae dyletswydd ar y Cynulliad a Llywodraeth
Cymru i sicrhau bod pob penderfyniad llywodraethu sy’n effeithio ar Gymru yn
ddealladwy i bawb, pa bynnag iaith a ddefnyddir.
.
Prif
ddeisebydd:
Cymru Sofren
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 14 Mai 2013
Nifer y llofnodion : 11